Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

"O Bydded i'r
Heniaith Barhau"

twitter

Croeso

     Gair gan Mrs Smith

 

Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r wefan hon i chi gan obeithio y cewch flas o’r hyn a gynigir gan Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James.

Ein nod fel ysgol yw creu awyrgylch hapus a diogel i’n disgyblion fel eu bod yn awyddus i ddysgu ac yn mwynhau dod i’r ysgol. Rydyn yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth â’n rhieni er mwyn i’n disgyblion gyrraedd eu llawn botensial.

Anogwn ein disgyblion i barchu eraill a dangos cariad tuag at eu gwlad, iaith, diwylliant a threftadaeth. Mae’n flaenoriaeth i ni baratoi ein disgyblion i fod yn ddinasyddion cyfrifol a gofalgar. Gweithiwn yn galed i feithrin gwerthoedd yn ein disgyblion a fydd yn eu paratoi at fod yn unigolion balch, hyderus a chyflawn.

Ein gweledigaeth yw darparu addysg o`r ansawdd orau, a hynny trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg gan staff ymrwymiedig a phroffesiynol sy`n anelu at y safonau addysgol gorau posib.

 

I am delighted to introduce this website to you and hope it gives you a taste of what we offer here at Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James.

Our aim as a school is to create a happy and safe environment for our pupils so that they are eager to learn and enjoy coming to school. We are very keen to work in partnership with parents so that our pupils achieve their full potential.

We encourage children to respect others and demonstrate a love towards their country, language, culture and heritage. We develop our pupils to be responsible and caring citizens and work hard to instill values in them that will make them proud, confident and well-rounded individuals.

Our vision is to provide the best possible quality of education through the medium of Welsh, provided by committed and professional staff.