Jac Do
Croeso i ddosbarth Jac Do/ Welcome to dosbarth Jac Do
Croeso i Ddosbarth Jac Do. Ein hathrawes eleni yw Mrs Lockett. Mrs Lockett sydd yn gyfrifol am y dosbarth ar ddydd Llun, Mawrth, Iau a Gwener a Miss Gibbon sydd yn cymryd yr awenau ar ddydd Mercher. Ein cynorthwyesau yw Miss Gibbon, Miss Monks, Mrs Smart a Mrs James. Mae 25 disgybl yn ein dosbarth. Rydym i gyd yn blant oed derbyn. Rydym yn mwynhau gwella ein Cymraeg bob dydd yn y dosbarth. Mae dosbarth Jac Do yn ddosbarth hapus iawn – rydym yn mwynhau cwmni ein ffrindiau wrth gyd-chwarae. Mae’r athrawon yn siarad gyda’r rhieni ar y Dojo ac yn rhoi lluniau ohonom ni’n mwynhau arno hefyd. Bydd ein gwersi ymarfer corff bob dydd Mawrth a Mercher. Rydym yn hoffi dysgu yn yr awyr agored yn ddyddiol felly gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd. Ar ddydd Mercher byddwn yn dysgu yn yr awyr agored trwy gydol y dydd, byddwn yn treulio amser yn ‘Y Goedwig Glyd’ ar gyfer Mercher Mwdlyd.
Welcome to Dosbarth Jac Do. Our teacher this year is Mrs Lockett. Mrs Lockett is responsible for the class on Mondays, Tuesdays, Thursdays, and Fridays, and Miss Gibbon takes charge on Wednesdays. Our assistants are Miss Gibbon, Miss Monks, Mrs Smart, and Mrs James. There are 25 pupils in our class. We are all reception-age children. We enjoy improving our Welsh every day in the classroom. Dosbarth Jac Do is a very happy class – we enjoy the company of our friends while playing together. The teachers communicate with parents on Dojo and also share pictures of us having fun. We will have PE lessons every Tuesday and Wednesday. We like to learn outdoors every day, so dress appropriately for the weather. On Wednesdays, we will be learning outdoors all day, spending time in the 'Y Goedwig Glyd' for Muddy Wednesday.